Datganiad hygyrchedd ar gyfer 'Cyfrif gyrwyr a cherbydau'
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn esbonio pa mor hygyrch mae'r gwasanaeth, beth i'w wneud os ydych yn cael anhawster yn ei ddefnyddio, a sut i adrodd am broblemau hygyrchedd â'r gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o wefan ehangach GOV.UK. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer prif wefan GOV.UK.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaeth Cyfrif gyrwyr a cherbydau yn unig, ar gael yn https://www.gov.uk/cyfrif-gyrwyr-cerbydau
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
- llywio trwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio trwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch mae'r gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â fersiwn 2.1 safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys.
Nid oes problemau hygyrchedd hysbys o fewn y gwasanaeth hwn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn cael anhawster i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni trwy:
E-bostio ein tîm Cyfathrebu Allanol
Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 0300 124 5641
Adrodd am broblemau hygyrchedd â'r wefan hon
Rydym yn edrych bob amser ar wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn canfod unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
Gwasanaethau Cwsmeriaid - John.Hewson@dvla.gov.uk
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd y Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif. 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â'r holl safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.1.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 17 Mawrth 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 15 Ionawr 2024
Cafodd y gwasanaeth hwn ei brofi ddiwethaf ar 31 Ionawr 2023. Cafodd y prawf ei gyflawni gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.
Gallwch ddarllen adroddiad llawn y prawf hygyrchedd ar gais.